Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 2 Ebrill 2014 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.30 - 11.55 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Alun Ffred Jones AC (Cadeirydd) Andrew RT Davies AC Russell George AC Julie James AC Elin Jones AC Julie Morgan AC William Powell AC Joyce Watson AC |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Professor Phil Goodwin, Yr Athro Phil Goodwin Prifysgol Gorllewin Lloegr Dr Scott Le Vine, Imperial College, Llundain |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Alun Davidson (Clerc) Catherine Hunt (Dirprwy Glerc) Graham Winter (Ymchwilydd) Nia Seaton (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Mick Antoniw, Llyr Gruffydd ac Antoinette Sandbach. Bu Elin Jones ac Andrew R T Davies yn dirprwyo yn y cyfarfod.
2 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitemau 3, 7 ac 8
2.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.
3 Bil Cynllunio Drafft (Cymru): Trafod y llythyr at y Gweinidog Tai ac Adfywio
3.1 Trafododd y Pwyllgor y llythyr drafft, a chytunodd y byddai'r newidiadau a drafodwyd yn cael eu dosbarthu ar ffurf e-bost i'r Aelodau i'w cymeradwyo.
3.2 Os nad yw'n bosibl cytuno ar y newidiadau i'r llythyr drwy e-bost, cytunodd y Pwyllgor y byddai'n cynnal trafodaeth bellach yn ystod ei gyfarfod nesaf.
4 Ymchwiliad i gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer yr M4 o amgylch Casnewydd: Tystiolaeth gan Dr Scott Le Vine
4.1 Bu Dr Le Vine yn ymateb i gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor.
5 Ymchwiliad i gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer yr M4 o amgylch Casnewydd: Tystiolaeth gan yr Athro Phil Goodwin
4.1 Ymatebodd yr Athro Goodwin i gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.
6 Papurau i’w nodi
Ymchwiliad i gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer yr M4 o amgylch Casnewydd: Sylwadau gan yr Athro Stuart Cole am y llythyr gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, dyddiedig 20 Rhagfyr 2013
6.1 Nododd y Pwyllgor y papur.
Llythyr gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd - Camau gweithredu sy'n codi o'r cyfarfod ar 5 Mawrth
6.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
Bil Cynllunio Drafft (Cymru) - Gwybodaeth ychwanegol gan Cymorth Cynllunio Cymru ac Un Llais Cymru
6.3 Nododd y Pwyllgor y papur.
Ymchwiliad i gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer yr M4 o amgylch Casnewydd: Llythyr gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
6.4 Nododd y Pwyllgor y llythyr.
7 Rheoli Tir yn Gynaliadwy: Trafod y materion allweddol
1.1. Cytunodd y Pwyllgor ar y materion allweddol ar gyfer yr adroddiad ar ei ymchwiliad i Reoli Tir yn Gynaliadwy, fel y nodwyd yn y papur a drafodwyd.
8 Blaenraglen waith
1.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer tymor yr haf.
8.2 Cytunodd y Pwyllgor ar gylch gorchwyl ar gyfer cynnal ymchwiliad i goedwigaeth, a chytunodd y byddai'n ystyried cylch gorchwyl ar gyfer cynnal ymchwiliad i reoli gwastraff yn ystod ei gyfarfod nesaf.